20 Chwefror 2024
Annwyl Llyr,
P-06-1388 Dileu'r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd
Trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb ar 29 Ionawr 2024. Cytunwyd i ysgrifennu atoch i dynnu sylw at y ddeiseb hon ac i ofyn a ellir ystyried y materion a amlygir fel rhan o unrhyw waith yn y dyfodol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Yng ngoleuni’r gwaith sy’n debygol o gael ei wneud gan Bwyllgorau eraill ar y mater, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Mae rhagor o wybodaeth am ddeiseb P-06-1388, gan gynnwys gohebiaeth gysylltiedig, ar gael ar ein gwefan: https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=42610
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm clercio'r Pwyllgor.
Yn gywir
Jack Sargeant AS
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.